Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd croeso o hyd i fyfyrwyr tramor ddod i astudio yng Nghymru ar ôl Brexit.

Bydd Carwyn Jones yn gosod saith amcan i Lywodraeth Prydain a’r Comisiwn Ewropeaidd a fydd yn “sicrhau” na fydd myfyrwyr o dramor yn “dioddef yn sgil cynlluniau i gyfyngu ar fewnfudo.”

Bydd e’n cyflwyno ei neges, gan alw hefyd ar Lywodraeth Prydain i dynnu myfyrwyr rhyngwladol o’i thargedau i leihau mewnfudo, wrth annerch myfyrwyr ac academyddion ym Mhrifysgol Bangor heddiw.

“Gadewch i mi ddweud yn glir iawn bod croeso i fyfyrwyr tramor yng Nghymru, y rhai sydd eisoes gyda ni, a’r rhai sy’n ystyried dod yma i astudio,” bydd Carwyn Jones yn ei ddweud.

“Fe wnaeth Llywodraeth ddiwethaf y Deyrnas Unedig gamgymeriad ofnadwy wrth edrych ar fisâu myfyrwyr. Roedd myfyrwyr tramor yn darged rhwydd yn yr ymgais i gyflawni addewid amhosib ynghylch mewnfudo.

“Yn anffodus, yn hytrach nag ailystyried hyn, mae’n ymddangos bod y Llywodraeth newydd yn barod i ddilyn y trywydd hwn ymhellach.

“O ganlyniad, mae llai o fyfyrwyr tramor yn gwneud cais i astudio yn y Deyrnas Unedig. Nid yn unig oherwydd cyfyngiadau’r cyfreithiau newydd, ond hefyd oherwydd y syniad niweidiol nad oes croeso yma bellach.”

System addysg uwch newydd

Bydd yn dweud hefyd bod angen system addysg uwch newydd ar ôl Brexit i alluogi sefydliadau i barhau i weithio’n “rhydd” ar draws Ewrop a’r byd.

“System sy’n caniatáu i’n myfyrwyr deithio ac astudio mewn gwledydd eraill, ac sy’n sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn lle croesawgar i bobl dramor sy’n dod yma i ddysgu a gweithio.

“Rhaid i’r cydweithio hwn barhau. Byddwn yn gweithio gyda phrifysgolion i sicrhau bod y pontydd hyn yn cael eu cynnal a’u cryfhau dros y blynyddoedd i ddod.”

Mae’r saith amcan yn cynnwys:

  • Gwarantu statws fisa a dinasyddiaeth pobl o’r Undeb Ewropeaidd sy’n gweithio mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig.
  • Cytuno ar drefniadau ffioedd dysgu myfyrwyr, fel bod myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn yr UE yn talu ffioedd myfyrwyr ar lefelau lleol, a myfyrwyr yr UE sy’n astudio yng Nghymru’n cael eu trin fel myfyrwyr y DU o ran ffioedd a chostau astudio.
  • Cymryd rhan yn y cynllun fisa gwaith ar ôl astudio sy’n cael ei brofi ar hyn o bryd mewn pedair prifysgol yn Lloegr.
  • Cynnal lefelau ariannu datblygu rhanbarthol yng Nghymru drwy addasiadau priodol i’r grant bloc.
  • Parhau i fod yn rhan o Horizon 2020 a chynlluniau ymchwil eraill dan arweiniad yr UE.
  • Cymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr ERASMUS+.
  • Mwy o symudedd staff a myfyrwyr sy’n astudio ac yn gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru.