Edward Michael Grylls
Mae’r cyflwynydd antur Edward Michael Grylls, sy’n galw ei hun yn Bear Grylls, wedi corddi’r dyfroedd unwaith eto ar ôl gwneud cais i godi 25 sied ar draeth distaw ym Mhen Llŷn.

Daeth y cais am ganiatâd cynllunio i sylw’r cynghorydd lleol John Jones, sydd wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu bwriad yr anturiaethwr i “ddifethaf lle delfrydol”.

Mae’r cyn-filwr SAS yn un o griw sydd wedi sefydlu consortiwm busnes i wneud cais ar gyfer datblygu tir ym Mynydd Tir y Cwmwd, Llanbedrog, sy’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Dywedodd John Jones: “Roeddwn i’n bryderus ar ôl clywed tua blwyddyn yn ôl bod y cwmni wedi cael ei sefydlu gan wybod bod Bear Grylls yn un o’r cyfarwyddwyr. Maen nhw’n ddynion busnes sydd wedi prynu tai yn Abersoch. Bryd hynny, roedden ni’n gwybod bod bwriad i wneud rhywbeth.

“Dw i a’r 99% o’r bobol dw i wedi siarad â nhw ynglŷn â hyn yn anhapus iawn. Mae’r traeth yn le delfrydol i bobol a natur a rydan ni eisiau ei gadw fel yna.

“Mae’n safle o ddiddordeb gwyddonol – yn ôl y gyfraith gawn nhw ddim codi carreg – ond dyw hynny ddim wedi stopio Bear Grylls yn y gorffennol”.

Ynys haf

Yn 2001, fe brynodd Bear Grylls Ynys Tudwal Fawr, sydd tua milltir oddi wrth arfordir Abersoch, ar les am £95,000.

Fe osododd lithren fawr yn 2013 oedd yn mynd o’r ynys i’r môr, heb roi gwybod i Gyngor Gwynedd ei fod am wneud hynny, a bu’n rhaid iddo ei thynnu i lawr.