Amy Wadge (o'i chyfrif Twitter)
Mae’r gantores o Gymru, Amy Wadge, wedi ennill dwy wobr fawr arall am ei chân, Thinking Out Loud.

Fe aeth i Lundain neithiwr i dderbyn gwobrau Cân y Flwyddyn a’r Gân Ddigidol Orau mewn  seremoni ryngwladol.

Roedd y gwobrau’n cael eu rhoi gan ASCAP, cymdeithas cyfansoddwyr awduron a chyhoeddwyr America, ac roedd rhai fel Duran Duran a Paul McCartney ymhlith y gweddill a gafodd eu hanrhydeddu.

Roedd Amy Wadge eisoes wedi ennill gwobr Grammy am y gân oedd wedi ei chyfansoddi ar y cyd â’r canwr oedd yn ei pherfformio, Ed Shearan.

Mae Amy Wadge yn canu ei hun hefyd, yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.