Shan Morgan (Llun: Wikipedia)
Shan Morgan sydd newydd ei phenodi’n Ysgrifennydd Parhaol nesa’ Llywodraeth Cymru.

Hi fydd yn arwain y gwasanaeth sifil yng Nghymru, ac yn gyfrifol am reoli cyllideb Llywodraeth Cymru o £15 biliwn y flwyddyn, yn ogystal â rheoli tua 5,000 o staff sy’n gweithio i’r sefydliad.

Ar hyn o bryd, Shan yw Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig ym Mrwsel.

“Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â Llywodraeth Cymru ar adeg allweddol yn y gwaith o weithredu’r Rhaglen Lywodraethu 5 mlynedd newydd – ‘Symud Cymru Ymlaen’,” meddai Shan Morgan.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Prif Weinidog, y Cabinet, swyddogion a rhanddeiliaid ehangach i gyflawni’r ymrwymiadau uchelgeisiol yn y Rhaglen ac i fynd i’r afael â’r heriau o ran hyrwyddo ffyniant a chyfle i bawb yng Nghymru.

“Mae hi wedi bod yn fraint gweithio i’r Gwasanaeth Llysgenhadol mewn pob math o wahanol rolau a chael cyfrannu at ddatblygu perthynas y DU â’r UE dros y blynyddoedd. Er fy mod i’n drist i adael cymaint o ffrindiau a chydweithwyr da ym Mrwsel, rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael dechrau yn fy swydd newydd.”

Bydd Ms Morgan yn dechrau ar ei swydd newydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.