E-sigaret Llun: PA
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ail-gyflwyno deddfwriaeth “i hybu iechyd y genedl” heddiw.

Bydd Mesur Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn gwahardd smygu ar dir ysgolion, ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus ond ni fydd yn cynnwys gwaharddiad ar ysmygu e-sigarets mewn rhai mannau cyhoeddus dan do.

Fe fethodd ymgais Llywodraeth Cymru i wahardd smocio e-sigarets mewn mannau cyhoeddus ym mis Mawrth ar ôl i Aelodau Cynulliad Plaid Cymru benderfynu gwrthwynebu ar y funud ola’.

Roedd hynny ar ôl i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, eu gwawdio yn ystod y ddadl gan achosi ymateb ffyrnig.

‘Siom’

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Roedd y cyhoedd, rhanddeiliaid a’r pleidiau i gyd yn gefnogol iawn i lawer o’r mesurau yn Bil Iechyd y Cyhoedd a gafodd ei gyflwyno yn 2015. Felly, pan na chafodd y Bil ei basio, roedd yna dipyn o siom.

“Wrth ailgyflwyno’r Bil, rydyn ni’n cadw’r meysydd hynny a gafodd eu cadarnhau yn ystod y broses graffu flaenorol – fel mesurau i gyfyngu ar smygu ar dir ysgolion, ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus.”

Ychwanegodd: “Bwriad y cynigion fel y gwaharddiad ar smygu ar dir ysgolion ac mewn meysydd chwarae yw atal plant rhag dod i gysylltiad ag ymddygiadau yn ymwneud â smygu. Bydd hyn yn golygu eu bod nhw’n llai tebygol o ddechrau smygu eu hunain.”

‘Trwyddedu gorfodol’

Meddai Llywodraeth Cymru mai nod y mesur yw gwella llesiant pobl yng Nghymru, ac mae’n rhoi pwyslais arbennig ar hybu iechyd plant a phobl ifanc.

Mae’r mesur yn cynnwys cynigion i greu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer gweithdrefnau arbennig fel aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio, ac mae’n gwahardd tyllu rhannau personol o gorff unrhyw unigolyn o dan 16 oed.

Mae hefyd yn cynnig:

  • Cynnal cofrestr genedlaethol o werthwyr tybaco neu nicotin, fel bod awdurdodau lleol yn gallu gorfodi deddfwriaeth yn well ac addysgu a chefnogi gwerthwyr;
  • Gwahardd cynnyrch tybaco a nicotin rhag cael eu rhoi i unigolion o dan 18 oed, er enghraifft drwy wasanaeth cludo cynnyrch sy’n cael ei gynnig gan archfarchnadoedd;
  • Rhoi gorfodaeth ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i asesu sut bydd eu penderfyniadau yn effeithio ar iechyd corfforol a meddwl unigolion;
  • Rhoi gorfodaeth ar awdurdodau lleol i lunio strategaeth am doiledau at ddefnydd y cyhoedd yn eu hardal;
  • Gwneud fferyllfeydd yn fwy atebol i anghenion eu cymuned leol.

‘Heriau’

Dywedodd Rebecca Evans:  “Mae’r Bil yn canolbwyntio ar wella lles pobl gan sicrhau, er enghraifft, fod awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer diwallu anghenion y bobl leol i gael mynediad at gyfleusterau toiled. O ganlyniad, bydd pobl hŷn, pobl anabl a phobl sy’n gofalu am blant ifanc yn gallu gadael y tŷ heb orfod poeni bod perygl iddyn nhw wynebu embaras.

“Yn gyffredinol, mae iechyd pobl Cymru yn gwella ond rydyn ni yn wynebu heriau ac rydyn ni am weld gwelliannau’n digwydd yn gyflymach. Rwy’n hyderus y bydd Bil Iechyd y Cyhoedd yn ein helpu i gyflawni’r nodau hyn.”

Mae disgwyl i’r Bil gael ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw a bydd y Gweinidog yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol ynghylch y Bil yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ddydd Mawrth, 8Tachwedd.