Mae Heddu Gwent yn gofyn am gymorth gan y cyhoedd, wedi i barot llwyd Affricanaidd gael ei ddwyn o gartre’ yn Pengam.

Fe ddigwyddodd y lladrad yn Commercial Street, Pengam, rywbryd rhwng 10.30yb a 4yp ddydd Sadwrn, Hydref 29.

Fe gafodd parot seithmlwydd oed o’r enw Rocky ei ddwyn yn ystod y lladrad. Ar ei blu llwyd, mae yna rai marciau coch, ac mae ganddo hefyd blu coch ar ei goes dde.

Yn ystod y lladrad, fe gafodd eitemau eraill eu dwyn hefyd, yn cynnwys PS3, iPhone 4, gliniadur Toshiba lliw gwyn, sêff yn cynnwys arian, a chadw-mi-gei plastig yn cynnwys arian.