Mae Aelod Seneddol Llafur Pontypridd, Owen Smith yn awyddus i newid y gyfraith fel bod modd cynnal ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Smith, fe ddylai Llywodraeth Prydain gael yr hawl i ofyn am sicrwydd pobol yng ngwledydd Prydain eu bod nhw am adael Ewrop.

Gwnaeth Smith ei sylwadau ar raglen ‘Sunday Supplement’ ar Radio Wales ar ôl i’r Uchel Lys ddyfarnu na all Llywodraeth Prydain weithredu Cymal 50 i ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gefnogaeth y Senedd gyfan.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn apelio yn erbyn y dyfarniad yn y Goruchaf Lys.

Dywedodd Smith: “Byddaf yn ceisio diwygio’r ddeddfwriaeth fel bod opsiwn i’r Senedd awgrymu wrth y wlad y dylid cynnal ail refferendwm.

“Nawr, efallai na fydd yn bosib gwneud hynny, mae’n bosib y bydd y llywodraeth yn ceisio fframio’r bil yn y fath fodd fel eu bod yn ei gwneud hi’n amhosib, ond dyna fydd fy amcan.

“Dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu y cewch chi ail refferendwm, fe allai’r telerau sy’n cael eu cytuno fod yn fanteisiol i Brydain. Fe allai fod yn amlwg fod y wlad yn hollol fodlon ar hynny.

“Ond os daw’n amlwg dros y ddwy flynedd nesaf y byddwn ni’n cael mwy o ansicrwydd economaidd, fod y wlad yn mynd i fod yn llai llewyrchus ac nad yw pobol yn fodlon ar y canlyniad, yna dw i’n meddwl y byddai unrhyw lywodraeth synhwyrol yn dymuno, fel opsiwn, gael y posibilrwydd o ofyn y cwestiwn unwaith eto er mwyn bod yn sicr.”

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May eisoes wedi dweud y dylai’r holl aelodau seneddol dderbyn canlyniad y refferendwm.

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi addo gwrthwynebu’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd oni bai bod Prydain yn cael aros yn y farchnad sengl.