Mae cyn-brifathrawes ysgol gynradd wedi ei gwahardd rhag dysgu am gyfnod amhenodol, wedi i wrandawiad ei chael yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Fe ddaeth y gwrandawiad i’r casgliad fod Helen Hopkins, cyn-bennaeth Ysgol Banc Sion Cwilt ym mhentre’ Post Mawr, Ceredigion, wedi “ymddwyn yn anonest trwy hawlio arian ymchwil” a ddefnyddiwyd i dalu am fynd â’i phlant ar drip i Iwerddon.
Penderfynodd y gwrandawiad hefyd fod Mrs Hopkins wedi ymddwyn yn anonest pan gymrodd arian oedd i fod ar gyfer cardiau Nadolig at ei defnydd personol, er bod ei hamddiffyniad yn dweud na fyddai rhywun anonest wedi gadael nodyn ‘IOU’ wrth fynd â’r pres.
Mae gan Helen Hopkins yr hawl i apelio yn erbyn y gwaharddiad, ac fe fydd ganddi hawl i wneud cais i Gyngor y Gweithlu Addysg roi ei henw’n ôl ar y gofrestr athrawon ymhen dwy flynedd.