Sammy Almahri - oes o garchar
Mae Sammy Almahri, 45, wedi’i ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, a hynny am lofruddio Nadine Aburas yng Nghaerdydd ar Nos Galan 2014.

Yn ystod ei achos fis diwetha’, fe blediodd yn euog i ladd y ferch 28 oed cyn gadael y wlad. Fe fu’n cuddio yn Tanzania am gyfnod, gan ffonio teulu a ffrindiau Nadine oddi yno a gwawdio eu galar.

Ond fe gafodd ei estraddodi o Tanzania yn dilyn ymchwiliad hir gan Heddlu De Cymru a fu’n cydweithio â nifer o asiantaethau eraill ledled y byd.

Y tu allan i Lys y Goron Caerdydd heddiw, fe ddywedodd teulu Nadine Aburas eu bod nhw’n ddiolchgar i’r heddlu ac i Wasanaeth Erlyn y Goron am eu gwaith caled, yn ogystal ag i’r gwasanaethau sy’n cynnal dioddefwyr troseddau fel hyn.

“Heb y cymorth yma, fyddai ganddon ni ddim y nerth i fynd trwy’r 22 mis diwetha’. Fe gymrodd Sammy Almahri ein Nadine ar ddechrau ei bywyd fel oedolyn. Roedd hi’n ferch arbennig, yn ddewr, yn glyfar ac yn gariadus… ac fe fyddwn ni’n gweld eisiau ei chwerthin a’i harddwch am byth.”