Mark Drakeford, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol
Mae Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru wedi amlinellu amserlen o 18 mis er mwyn diwygio’r ffordd mae cynghorau sir yn gweithio.
Mewn araith yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bydd Mark Drakeford yn cyflwyno cyfres o gynigion newydd dan y Bil Llywodraeth Leol newydd “yn seiliedig ar lefel uwch o weithio rhanbarthol.”
Fe wnaeth rybuddio awdurdodau lleol hefyd i “baratoi am y dewisiadau anoddaf” fydd o’u blaenau.
Dan y cynigion newydd, bydd disgwyl i gynghorau weithio gyda’i gilydd llawer mwy nag maen nhw wedi yn y gorffennol.
Mae disgwyl ymgynghoriad ffurfiol ar y newidiadau ddechrau’r flwyddyn newydd ym mis Ionawr, a fydd yn dod i ben cyn etholiadau Llywodraeth Leol Cymru ym mis Mai.
Fe ddaw cyhoeddiad Mark Drakeford yn dilyn cynlluniau dadleuol Llywodraeth Cymru y tymor diwetha’ i uno cynghorau sir Cymru, gan leihau’r nifer o 22 i 8 neu 9.
Ar ôl llawer o wrthwynebiad, cafodd y cynlluniau hynny eu hepgor ond mae’r Llywodraeth yn pwysleisio ei bod am weld mwy o gydweithio rhwng y siroedd.
“Newid diwylliannol”
Yn ei araith, fe wnaeth Mark Drakeford gydnabod nad yw Llywodraeth Cymru a chynghorau sir wedi “llwyddo i gytuno ar ffordd ymlaen yn y gorffennol” a galwodd am “newid diwylliannol” o fewn llywodraethau lleol.
“Os ydym am wneud hyn, yna mae angen newid diwylliannol,” meddai i ystafell lawn o arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru.
“Diwygiadau digon heriol yw’r diwygiadau sydd gennym mewn golwg rwy’n siŵr, ond os ydym yn edrych yn ôl ar fywyd gwaith y bobl yn yr ystafell hon yn y gorffennol, rydym wedi gweld newidiadau diwylliannol enfawr yn y ffordd y mae ein cynghorau’n gweithio.
“Er enghraifft, dri deg o flynyddoedd yn ôl fyddai neb wedi meddwl y byddem yn ailgylchu yng Nghymru ar y raddfa sy’n digwydd heddiw.
“Os llwyddwn i wneud i’r trefniadau rhanbarthol hyn weithio, bydd hynny nid yn unig yn gwneud gwasanaethau yn fwy cynaliadwy ond hefyd yn gosod cynsail at y dyfodol ar gyfer gwneud pethau mewn ffordd wahanol ac yn well.”
‘Methu fforddio camu’n ôl’
Ychwanegodd y bydd yn cyfarfod â chynghorau dros yr wythnosau nesaf i drafod unrhyw bryderon gall fod.
“Credaf ein bod i gyd yn ymwybodol bod risg gwirioneddol i enw da llywodraeth leol os na allwn fwrw ymlaen â’r cynigion hyn. Ni allwn fforddio camu’n ôl,” meddai.
“Dyna pam y byddaf yn cyfarfod â chi i gyd dros yr wythnosau nesaf er mwyn inni ddod i gonsensws erbyn diwedd y flwyddyn galendr.
Cafodd setliad Llywodraeth Leol Cymru ei gyhoeddi fis diwetha’, oedd yn amlinellu faint o arian fydd pob sir yn cael gan Lywodraeth Cymru at y flwddyn nesaf.