Daniel Thomas
Mae dyn 24 oed o Bowys wedi’i garcharu am ddeng mlynedd, wedi iddo wneud niwsans ohono’i hun â merched ifanc y daeth o hyd iddyn nhw ar wefan gymdeithasol Facebook.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod Daniel Thomas, 24, wedi cysylltu â dwy ferch dan-oed trwy’r we. Er iddo gael ei rybuddio’n ffurfiol gan yr heddlu i adael llonydd iddyn nhw, fe aeth yn ei flaen i gael cyfathrach rywiol gyda’r ddwy ferch.

Fe syrthiodd un o’r merched 14 oed yn feichiog, ac fe gafodd erthyliad yn yr ysbyty.

Roedd Daniel Thomas, meddai’r erlyniad, wedi gwahodd yr ail ferch i’r gartre’ yn Llandrindod tua’r un adeg ag yr oedd y ferch arall yn yr ysbyty.