Mae cynllun i adeiladu cerbydau rhyfel soffistigedig i’r Fyddin mewn ffatri ym Merthyr Tudful yn cadw at ei amserlen a’i gyllideb, yn ôl Llywodraeth Prydain.

Fe fu’n rhaid i’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, wadu honiadau bod y cynllun gwerth £3.5 biliwn yn wynebu oedi, ac wedi i erthygl ym mhapur newydd The Times awgrymu y bydd y gwaith o adeiladu’r 589 o gerbydau Ajax yn digwydd yn arafach na’r disgwyl.

“Rydyn ni’n anghytuno gydag erthygl y Times,” meddai Michael Fallon wrth bwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Rydyn ni o’r farn mai’r Ajax fydd y cerbyd rhyfel gorau posib, ac fe fydd ei symudiad a’i ddrylliau yn lleihau’r bygythiad o unrhyw ymosodiad arfog posib.”

Swyddi

Pan fydd y ffatri, sydd ar safle cyn ffatri Linde ym Merthyr Tudful, yn cychwyn creu’r cerbydau yn 2017 mae disgwyl i 250 o bobol gael eu cyflogi yno.

Fe fyddan nhw’n creu’r cerbyd arfog digidol cyntaf yn hanes gwledydd Prydain, a fydd yn barod i’w ddefnyddio yn 2020.

Cafodd y cerbydau eu dylunio gan gwmni General Dynamics yng Nghwm Derwen, Caerffili.