Mae 350 o swyddi yn y fantol yn ffatri brosesu cig 2 Sisters ym Merthyr Tudful.

Daw’r amheuon wrth i’r cwmni ystyried symud eu hadran becynnu i Gernyw er mwyn “goroesi a llwyddo yn y dyfodol”. Yn 2010, derbyniodd y safle £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru cyn i 2 Sisters ei brynu.

Mae’r cwmni’n cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru a’r Aelod Seneddol lleol, Gerald Jones, ac fe fydd cyfnod ymgynghori o 45 niwrnod yn dilyn y cyhoeddiad.

Mae oddeutu 1,000 o weithwyr ar y safle, ac mae Gerald Jones yn rhybuddio y byddai colli swyddi’n ergyd drom i’r gymuned.