Wrth i ras arlywyddol yr Unol Daleithiau dynnu tua’r terfyn, mae Hillary Clinton a Donald Trump yn parhau i ladd ar ei gilydd yn ystod wythnos ola’r ymgyrchu.

Yn ôl Clinton, gallai Trump dynnu’r Unol Daleithiau i mewn i ryfel niwclear, tra bod Trump yn honni y byddai Clinton yn achosi argyfwng cyfansoddiadol.

Mae cysgodion mawr tros ymgyrchoedd y naill ymgeisydd a’r llall.

Mae Donald Trump wedi cael ei gyhuddo gan nifer o fenywod o ymosod yn rhywiol arnyn nhw, tra bod helynt ebyst Hillary Clinton, sy’n destun ymchwiliad gan yr FBI, wedi codi amheuon am ei photensial hithau i arwain y wlad.

Byw a marw

Eisoes yr wythnos hon, mae Hillary Clinton wedi rhybuddio y byddai gan Donald Trump yr hawl i bwyso’r botwm i ddechrau rhyfel niwclear.

Dywedodd nad yw’r Gweriniaethwr yn gallu canolbwyntio am yn hir iawn ac y byddai’n rhaid iddo wneud penderfyniadau “rhwng byw a marw” a fyddai’n “rhy gymhleth i’w cyfyngu i un trydariad”, gan dynnu sylw at ei bresenoldeb amlwg ar wefan gymdeithasol Twitter.

Ddydd Mawrth, cafodd Donald Trump ei alw’n “fwli” gan ei wrthynebydd, gan dynnu sylw at ei sylwadau am bwysau Miss America 1996, Alicia Machado. Ond yn ei dro, mae Donald Trump hefyd wedi beirniadu Mrs Clinton am fod y “person mwyaf llwgr erioed i ymgeisio ar gyfer y Tŷ Gwyn”.

Achos llys tros ebyst

Mae Donald Trump wedi bod yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith fod yr helynt ebyst yn adlais o’r helyntion oedd yn gysgod tros gyfnod Bill Clinton yn Arlywydd yn y 1990au. Dywedodd y gallai’r helynt arwain at achos llys.

Ddydd Mawrth, dywedodd Trump y byddai Clinton yn “dinistrio gofal iechyd America am byth”.