Mae canlyniadau arolwg barn a gyhoeddwyd heddiw, dangos bod mwy o drigolion Cymru yn “teimlo’n optimistaidd” am y dyfodol wedi i’r Deyrnas Unedig bleidleisio i adael yr Undeb Ewropaidd nag sy’n teimlo’n negyddol.

* Dywedodd bron i hanner oedolion Cymru a holwyd (48%) eu bod yn teimlo’n fwy optimistaidd ynghylch y dyfodol wedi’r refferendwm;

* Dywedodd 22% eu bod yn “llawer mwy optimistaidd”;

* A dywedodd 26% arall eu bod “ychydig yn fwy optimistaidd”.

Mewn cymhariaeth, ychydig dan bedwar o bob deg o oedolion Cymru (37%) oedd ddim yn frwd tros adael:

* Dywedodd 17% eu bod yn teimlo “ychydig yn fwy pesimistaidd”;

“Dywedodd 18% arall eu bod yn teimlo’n “llawer mwy pesimistaidd” wedi refferendwm Ewrop.

* Ni chafwyd ateb gan 15% arall y boblogaeth.

Yr arolwg 

Roedd yr arolwg barn gan Omnibws Beaufort Cymru ar gyfer papur newydd y Western Mail wedi holi sampl gynrychioladol o oddeutu 1,000 o oedolion (16+) mewn 69 lleoliad ledled Cymru.

Er hynny, roedd gwahaniaethau amlwg mewn teimladau am y dyfodol yng Nghymru wedi Brexit i’w weld yn ôl rhanbarthau, oed a gradd gymdeithasol.

Caerdydd a De Ddwyrain Cymru yw’r unig ranbarth lle mae cydbwysedd barn ymysg y boblogaeth yn besimistaidd yn hytrach nag optimistaidd wedi canlyniad y refferendwm. Dywed 51% o breswylwyr eu bod yn teimlo’n fwy pesimistaidd o’i gymharu a 39% sy’n teimlo’n fwy optimistaidd.

Ond mae’r sefyllfa yn groes mewn ardaloedd fel Cymoedd De Cymru, lle dywed 57% eu bod yn teimlo’n fwy optimistaidd am y dyfodol o’i gymharu a 29% sy’n teimlo’n fwy pesimistaidd ar ôl Brexit.

Mae pobol ifainc (16-34 oed) ddwywaith yn fwy tebygol o deimlo’n fwy pesimistaidd (19%) nag yn fwy optimistaidd (10% ) ynghylch y dyfodol wedi’r refferendwm ond dywed cymaint ag un rhan o bump (20%) nad ydyn nhw’n siwr sut y maen nhw’n teimlo.

Mewn cymhariaeth, dywed bron i dair rhan o bump ymysg y rhai dros 55+ oed (29%) eu bod yn teimlo’n llawer mwy optimistaidd wedi canlyniad y refferendwm. Dim ond 18% o’r grŵp oedran hwn sy’n dweud yn groes.