Paul Wright a'i deulu
Mae dyn o’r Wyddgrug a’i gafwyd yn euog gan lys yn Groeg am ei ran mewn damwain car ar wyliau 13 mlynedd yn ôl wedi cael gwybod na fydd yn cael ei estraddodi i Wlad Groeg.
Derbyniodd Paul Wright warant arestio Ewropeaidd ar 22 Mawrth yn ei gartref yn Yr Wyddgrug mewn perthynas â gwrthdrawiad rhwng car a sgwter yn Malia, Creta, yn 2003.
Dywedodd y dyn 34 mlwydd oed, a oedd yn 21 ar y pryd, ei fod wedi bod yn deithiwr yn y car oedd yn cael ei yrru gan ffrind.
Roedd wedi cael ei wysio i fynychu achos llys yng Ngwlad Groeg yn 2006 ond oherwydd ei fod wedi symud o’r cyfeiriad yn Birmingham erbyn hynny, methodd â derbyn y ddogfen.
Yn ei absenoldeb cafodd ei ddedfrydu i 15 mis yn y carchar, neu ddirwy, am gymryd y car heb ganiatâd ac achosi difrod troseddol gwerth tua 3,000 ewro.
Heddiw, dywedodd y barnwr yn Llys Ynadon Westminster nad oedd yn fodlon bod y tad i ddau wedi derbyn y gwŷs gwreiddiol. Beirniadodd hefyd yr oedi rhwng y ddamwain a swyddogion ymddangos yn ei gartref dros ddegawd yn ddiweddarach.
Mae gan yr erlyniad saith diwrnod i apelio yn erbyn y dyfarniad.