Bydd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan yn cyhoeddi enw’r Esgob newydd (llun: Ben Birchall/PA)
Mae’r broses o ethol Esgob newydd i Dyddewi yn dechrau heddiw ac mae disgwyl iddo barhau am dridiau.

Am y tro cyntaf fe fydd gan ferched gyfle i gael eu hethol gan yr Eglwys yng Nghymru wrth i’r corff llywodraethol gwrdd i drafod a phleidleisio.

Bydd yr Esgob newydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Wyn Evans wnaeth ymddeol ddechrau mis Hydref ar ôl gwasanaethu am wyth mlynedd fel Esgob Tyddewi.

Bydd gan yr Esgob newydd gyfrifoldeb tros esgobaeth Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion a bydd yn dilyn traddodiad hir o esgobion.

Ymhen y tridiau o drafod, bydd Archesgob Cymru yn cyhoeddi enw’r Esgob newydd a bydd yn cael ei gadarnhau’n ffurfiol a’i gysegru yng Nghadeirlan Llandaf ar 21 Ionawr 2017.

Ac yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Archesgob Cymru ei hun, Dr Barry Morgan, y bydd yntau’n ymddeol ar ei ben-blwydd yn 70 oed ar ddiwedd mis Ionawr, ar ôl bron i 14 mlynedd o wasanaeth.