Robert Owens Llun: Heddlu Gwent
Yn Llys y Goron Caerdydd, mae dyn 47 oed wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei fam yng ngardd ei chartref yn Ystrad Mynach ger Caerffili.

Roedd Robert Owens wedi cyfaddef iddo lofruddio ei fam, Iris Owens, gyda llif gadwyn ar Fai 3 eleni.

Ddoe, clywodd y llys i Robert Owens gicio, tagu ac ymosod ar ei fam 75 oed gyda llif gadwyn.

Daeth hi i’r amlwg hefyd fod Robert Owens yn gaeth i heroin, a dangosodd profion meddygol wedi’r digwyddiad fod morffin, heroin a chocên yn ei system.

Roedd disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ddoe, ond fe ddywedodd y barnwr Mrs Ustus Nicola Davies ei bod yn gohirio’r ddedfryd tan heddiw er mwyn adlewyrchu ar yr “achos trasig ac anarferol.”

Dywedodd y barnwr y bydd yn rhaid i Owens dreulio o leiaf 12 mlynedd a hanner dan glo.

‘Ysbrydoledig’


Iris Owens Llun: Heddlu Gwent
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Ruth Price o Heddlu Gwent mewn datganiad bod Iris Owens yn berson “ysbrydoledig ac uchel iawn ei pharch” a oedd wedi byw “bywyd diddorol iawn ac wedi gwneud cymaint dros bobl eraill.”

Ychwanegodd: “Er ein bod ni wedi cael rhagor o wybodaeth yn ddiweddar iawn gan y diffynnydd ynglŷn â sut y cafodd anafiadau Iris Owens eu hachosi, dy’n ni dal ddim yn gwybod beth yn union ddigwyddodd ar 3 Mai, a pham, ac mae hynny wedi gwneud yr ymchwiliad yn fwy heriol.

“Mae cyfaddefiad Robert Owens a’i ddedfryd yn dod a’r mater i ben ar gyfer y tîm a oedd wedi delio gyda’r achos, ond i deulu Iris ni fydd yn lleddfu eu colled ac mae ein meddyliau gyda nhw yn ogystal â’r rhai oedd yn ei hadnabod ac a fydd yn cofio ei charedigrwydd, ei hegni a’i chariad at fywyd.”