Mae’r Canghellor Philip Hammond wedi amlinellu cyfres o fesurau er mwyn diogelu’r Llywodraeth, busnesau a phobl gyffredin rhag ymosodiadau seibr.

Mae gweinidogion yn bryderus am y cynnydd mewn dyfeisiadau sy’n gysylltiedig â’r we a allai ei gwneud yn haws i hacwyr cyfrifiaduron  gynnal ymosodiadau seibr.

Pwrpas y strategaeth, a fydd yn derbyn £1.9 biliwn, yw cryfhau’r mesurau diogelwch ond hefyd i dargedu’r rhai sy’n cynnal yr ymosodiadau seibr.

Dywedodd y Canghellor y bydd y Deyrnas Unedig yn “taro’n ôl” os yw’n cael ei bygwth gan ymosodiadau seibr.