Iris Owens, Llun: Heddlu Gwent
Mae disgwyl i ddyn 47 oed gael ei ddedfrydu heddiw am lofruddio ei fam yng ngardd ei chartref yn Ystrad Mynach ger Caerffili ar Fai 3 eleni.

Mewn gwrandawiad ym mis Medi, cyfaddefodd Robert Owens iddo lofruddio ei fam, Iris Owens, gyda llif gadwyn.

Ddoe, clywodd Llys y Goron Caerdydd i Robert Owens gicio, tagu ac ymosod ar ei fam 75 oed gyda llif gadwyn.

Daeth hi i’r amlwg hefyd fod Robert Owens yn gaeth i heroin, a dangosodd profion meddygol wedi’r digwyddiad fod morffin, heroin a chocên yn ei system.

Roedd disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ddoe, ond fe ddywedodd Mrs Ustus Nicola Davies ei bod yn gohirio’r ddedfryd tan heddiw er mwyn adlewyrchu ar yr “achos trasig ac anarferol.”