Llun: Coleg Gŵyr
Mae Coleg Gŵyr yn Abertawe wedi cyhoeddi bod safle campws Gorseinon wedi ailagor yn ôl yr arfer y bore yma i fyfyrwyr.
Bu’n rhaid cau’r safle’n ddirybudd fore ddoe yn dilyn rhybudd am gemegau yn y labordai gwyddonol.
Fe wnaeth y coleg glirio’r safle gan anfon y myfyrwyr adref.
Er hyn, nid oedd cysylltiad rhwng y digwyddiad hwnnw â’r tân ddamweiniol ar safle arall y coleg yr wythnos diwethaf, sef campws Tŷ Coch.
Mae’r safle hwnnw ynghyd â chanolfan Broadway a’r ganolfan chwaraeon yn parhau ar gau am weddill yr wythnos wrth i waith atgyweirio gael ei gynnal.
Yn ôl y coleg mae “cynnydd da” wedi’i wneud o ran o adfer dosbarthiadau a gwasanaethau, ond mae llawer mwy o ddifrod i’w atgyweirio a gwiriadau iechyd a diogelwch i’w cyflawni.
Fe fydd campws Tŷ Coch yn ailagor ar ddydd Llun, Tachwedd 7.