Mosul yn Irac Llun: PA
Mae lluoedd Irac wedi dechrau ymosod ar rannau o ddwyrain Mosul heddiw mewn ymgais i waredu â grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS) o ail ddinas fwya’r wlad a’u cadarnle olaf yn Irac.
Maen nhw’n ceisio mynd i mewn i ardal ddwyreiniol o’r ddinas, sef Gogjali.
Petaen nhw’n llwyddo dyna fyddai’r tro cyntaf mewn dwy flynedd i’r lluoedd gyrraedd Mosul wedi iddyn nhw gael eu gyrru oddi yno gan eithafwyr IS yn 2014.
Maen nhw wedi cynnal ymosodiadau ynghyd â chyrchoedd awyr, wedi’u harwain gan glymblaid yr UDA ar yr ardal, ac mae eithafwyr IS hefyd wedi ymateb gyda thaflegrau.
Y lluoedd
Mae lluoedd America yn amcangyfrif fod gan IS rhwng 3,000 a 5,000 o ymladdwyr yn Mosul, ynghyd â rhwng 1,500 a 2,500 o ymladdwyr eraill y tu allan i’r ddinas.
Maen nhw’n wynebu lluoedd gwrth-IS sy’n cynnwys unedau’r fyddin, heddlu milwrol, lluoedd arbenigol ac ymladdwyr Cwrdaidd sy’n gyfanswm o fwy na 40,000 o bobol.
Ac mae’r ffrwydradau ym mhrifddinas y wlad, Baghdad, yn parhau fel rhan o ymdrechion IS, ac mae degau wedi’u lladd ers i’r ymgyrch yn Mosul ddechrau.