Mae swyddogion iechyd wedi annog rhieni plant rhwng dwy a saith oed i drefnu fod eu plant yn cael eu brechu rhag ffliw dros y gaea’.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, fe all ffliw gael effaith ddifrifol ar blant ac felly maen nhw’n cynnig brechlyn chwistrell trwyn syml i blant 2-7 oed i helpu i’w diogelu rhag cael ffliw ac atal iddo gael ei ledu i bobol o’u cwmpas.
Ar gyfer plant dwy a thair oed rhoddir y brechlyn yn eu meddygfa leol, ond i blant mewn dosbarthiadau derbyn ac ym mlynyddoedd ysgol un, dau neu dri fe’i rhoddir gan y nyrs yn eu hysgol. Bydd rhaid i’r ysgol gael caniatâd rhieni cyn rhoi’r brechlyn i unrhyw blentyn.
I’r rhan fwyaf o blant iach, mae ffliw fel arfer yn golygu sawl diwrnod diflas gartref yn y gwely. Fodd bynnag, mae’n gallu bod yn ddifrifol i blant ifanc gyda phroblemau iechyd fel asthma.