Bae Abertawe
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n gobeithio y bydd chwedlau lleol yr ardal yn denu mwy o dwristiaid i Fae Abertawe y flwyddyn nesaf.
Fe fydd hanesion am longddrylliadau, cestyll ac ogofeydd lleol yn rhan o ymgyrch ‘Anturiaethau Chwedlau’ sy’n cael ei chydlynu gan y cyngor fel rhan o ymgyrch ehangach ‘Blwyddyn Chwedlau’ Croeso Cymru yn 2017.
Mae fideo ar-lein wedi lansio’r ymgyrch, ac mae eisoes wedi cael ei gwylio mwy na 17,000 o weithiau ar y dudalen Facebook a 1,500 o weithiau ar dudalen Facebook ‘Dewch i Fae Abertawe’.
Mae modd gweld y fideo drwy’r dudalen Facebook.
‘Cyrchfan trwy gydol y flwyddyn’
Mae 150 o bartneriaid marchnata Croeso Bae Abertawe hefyd wedi derbyn y fideo i’w rhannu ar draws y byd.
Mae pobol hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio’r hashnod #BywChwedlau ar Twitter wrth fynd ati i rannu eu hoff chwedl sy’n gysylltiedig â’r ardal.
Fe fydd fideo ychwanegol yn ymddangos dros y dyddiau nesaf yn cysylltu Calan Gaeaf â rhai o lefydd arswydus yr ardal, a bydd fideos yn ymddangos ym mis Ionawr a Mawrth ar gyfer cam nesa’r ymgyrch.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Dw i’n tybio mai canfyddiad ystrydebol o Fae Abertawe yw traeth o’r radd flaenaf fel Rhosili ar ddiwrnod hafaidd godidog, ond mae llawer mwy i’r cyrchfan na hynny. Dyma pam ein bod ni’n hyrwyddo Bae Abertawe fel cyrchfan trwy gydol y flwyddyn oherwydd bod cymaint ar gael ym mhob mis calendr.
“Wrth i Groeso Cymru symud o ymgyrch 2016 (Blwyddyn Antur) i ymgyrch 2017 (Blwyddyn Chwedlau), rydyn ni hefyd yn symud oherwydd bod Bae Abertawe’n lle bendigedig i ymweld ag ef yn yr hydref a’r gaeaf hefyd.
“Mae’n gyrchfan sy’n llawn chwedlau sy’n ymwneud â’n pobl a’n lleoedd, yn amrywio o gestyll canoloesol a beddau claddu hynafol i arfordir Celtaidd garw â chanrifoedd o hanes cudd.
“Mae Bae Abertawe’n wir yn lle campus ar gyfer anturiaethau chwedlau, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn rhoi hwb arall i ddiwydiant twristiaeth sydd eisoes yn werth dros £400 miliwn y flwyddyn i’r economi leol.”