Tywysog Cymru yn Aberfan ar Hydref 21 (Llun o wefan Tywysog Cymru)
Mae neges ar dudalen Facebook Clwb Pêl-droed Aberfan yn apelio am wybodaeth yn dilyn honiadau bod neges o gydymdeimlad gan Dywysog Cymru wedi’i ddwyn o fynwent y pentre’.
I nodi hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan ddydd Gwener diwetha’, bu mab hynaf y Frenhines ar ymweliad â’r pentre’, a gosododd dorch gyda neges arni.
Ond, mae neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn honni heddiw bod y cerdyn hwnnw wedi’i ddwyn nos Wener, gyda rhai yn honni eu bod wedi’i weld ar werth ar wefan eBay.
Mae’r neges ar Facebook eisoes wedi’i rhannu mwy na mil o weithiau, gan apelio am gymorth i geisio dod o hyd i’r un sy’n gyfrifol . Mae’n dweud: “Fedr pwy bynnag sydd wedi gwneud hyn, yn sicr, ddim mynd yn is – gwarthus.”
Bu gwasanaethau yn y pentref a munud o dawelwch ar draws Cymru ddydd Gwener i gofio am y 144 o bobol a laddwyd wedi i’r domen lo syrthio ar y pentref gan ladd 116 o blant yn ysgol gynradd Pantglas ar 21 Hydref 1966.