Mae cyn-Uwch Arolygydd Heddlu’r Gogledd, Gordon Anglesea yn ystyried apelio ar ôl i lys ei ganfod yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Cafwyd Anglesea, 79 o Hen Golwyn, yn euog ddydd Gwener o un ymosodiad anweddus yn erbyn un bachgen a thri ymosodiad anweddus yn erbyn bachgen arall.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 4 Tachwedd.
Cafwyd e’n ddieuog yn Llys y Goron Yr Wyddgrug o gyhuddiad o ymosodiad rhyw difrifol.
Dywedodd y barnwr Geraint Walters fod cyfnod yn y carchar yn anochel.
Mae Anglesea yn mynnu nad yw’n euog, ac fe gafodd ei amddiffyniad ei ariannu gan Ffederasiwn yr Heddlu.
Yn 1994, cafodd Anglesea iawndal gwerth £375,000 yn dilyn achos enllib yn erbyn nifer o bapurau newydd oedd wedi adrodd am yr honiadau gan blant yng nghartref plant Bryn Alyn.