Mae cyn-Uwch Arolygydd gyda’r heddlu a enillodd £375,000 o iawndal enllib yn 1994 wedi i’r cyfryngau ei gyhuddo o ymwneud â phedoffiliaid, wedi ei gael yn euog o droseddau cam-drin hanesyddol.
Bellach yn 79 oed, roedd Gordon Anglesea wedi’i gyhuddo o ddefnyddio ei ‘gysylltiadau mewn awdurdod’ i gymryd mantais ar fechgyn tra’n dditectif yn Wrecsam yn yr 1980au.
Yn dilyn achos llys chwe wythnos o hyd fe’i gafwyd yn euog heddiw o bedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ddau fachgen, a oedd yn 14 neu 15 oed ar y pryd, rhwng 1982 a 1987. Fe’i gafwyd yn ddieuog o un cyhuddiad o sodomiaeth.
Fe honnwyd fod Gordon Anglesea, oedd wedi cael Ffederasiwn yr Heddlu i dalu am ei amddiffyniad, wedi cael ei weld yng nghartref pedoffeil a’i fod yn ymwelydd cyson i Gartref Plant Bryn Alyn a oedd yn cael ei redeg gan John Allen, dyn sy’n treulio oes yn y carchar am gam-drin plant yn rhywiol yno.
Cafodd amheuon am Gordon Anglesea eu codi yn y cyfryngau yn 1991 pan gafodd ei enwi fel ymwelydd rheolaidd â chartrefi plant, a oedd wedi ymddiswyddo yn sydyn a heb esboniad o’i swydd gyda’r heddlu wrth i gyhuddiadau am gam-drin plant mewn cartrefi dyfu.
Ond yn 1994 enillodd Gordon Anglesea iawndal o £375,000 gan yr Independent on Sunday, The Observer, HTV a Private Eye am ei enwi.
Ni wnaeth Gordon Anglesea, sy’n dad i bump, ymateb pan glywodd bod y rheithgor wedi ei gael yn euog.
Dywedodd y barnwr Geraint Walters y byddai’n cael mechnïaeth nes ei fod yn cael ei ddedfrydu ond dweud wrtho y bydd yn mynd i’r carchar.