Mae Heddlu’r De wedi apelio o’r newydd am wybodaeth i geisio dod o hyd i fam a oedd wedi rhoi genedigaeth i fabi yn yr awyr agored ger Casnewydd flwyddyn yn ôl.

Credir bod y ddynes wedi rhoi genedigaeth i ferch fach heb unrhyw gymorth meddygol ym Mharc Seymour, Penhow ym mis Hydref 2015.

Flwyddyn yn ddiweddarach, nid yw’r heddlu wedi llwyddo i ddod o hyd i’r fam na’r plentyn.

Mae ditectifs yn credu bod y ddynes wedi rhoi genedigaeth rhwng 18 a 19 Hydref, gydag aelod o’r cyhoedd yn dod o hyd i’r safle rai oriau’n ddiweddarach wrth fynd a’u ci am dro.

Er gwaetha ymholiadau i feddygon, gwyddonwyr, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a thrigolion lleol, nid yw’r heddlu wedi derbyn unrhyw wybodaeth i geisio adnabod y fam neu’r ferch fach neu lle maen nhw.

‘Dirgelwch’

Mae’r heddlu bellach wedi datgelu rhagor o fanylion am oedran posib y babi nad oedd yn hysbys tan yn ddiweddar.

Mae archwiliad mwy manwl o’r brych wedi dod i’r casgliad y gallai’r babi fod wedi’i eni pan oedd y fam wedi bod yn feichiog ers tua 27 a 35 wythnos.

Mae hyn yn golygu y gallai’r babi fod wedi’i eni’n fyw ac y gallai fod wedi goroesi heb unrhyw ymyrraeth feddygol.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Ruth Price sy’n arwain yr ymchwiliad bod help a chymorth yn dal ar gael i’r ddynes gan ychwanegu; “mae hyn yn ddirgelwch yr hoffwn ni ei ddatrys.”

Mae’n debyg nad oes cysylltiad rhwng y digwyddiad a dod o hyd i gorff babi ym Mharc Imperial yng Nghasnewydd ym mis Ionawr eleni. Mae’r ymchwiliad yn parhau i’r achos hwnnw.