Llys y Goron yr Wyddgrug, Llun: Wikipedia
Mae’r areithiau clo wedi eu cyflwyno yn yr achos yn erbyn cyn-bennaeth Heddlu Gogledd Cymru, Gordon Anglesea, sy’n cael ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant.
Cafodd y rheithgor eu hannerch am y tro olaf gan yr erlynydd Eleanor Laws QC a Tania Griffiths QC ar ran yr amddiffyniad yn dilyn chwe wythnos o dystiolaeth yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Mae Gordon Anglesea, 79 oed o Fae Colwyn, yn gwadu cam-drin dau fachgen yn yr 1980au, a’r wythnos diwethaf galwodd yr honiadau yn ei erbyn yn “sothach llwyr.”
Fe ddywedodd Eleanor Laws bod bywydau’r ddau ddioddefwr honedig wedi cael eu difetha gan y digwyddiadau hanesyddol gan arwain at “flynyddoedd o droseddu” a dibyniaeth ar gyffuriau. Ond fe ychwanegodd nad yw hynny yn golygu bod y ddau ddyn yn “chwerw” ac yn dweud celwydd gerbron llys, fel sy’n cael ei honni gan yr amddiffyniad.
Yn groes i hynny, dywedodd Tania Griffiths QC bod tystiolaeth y dioddefwyr yn “nonsens” a’u bod yn ceisio “twyllo’r system”.
“Yn bendant mae’n berfformiad a fyddai’n ennill Oscar a does dim angen i mi ddweud hynny wrthoch chi. Mae’r rheiny sy’n dweud celwyddau noeth yn gwybod sut i’w dweud nhw,” meddai.
Roedd Gordon Anglesea yn arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn Wrecsam adeg yr honiadau rhwng 1982 ac 1987 – pan fyddai’r ddau ddioddefwr honedig yn 14 ac 15 oed.
Mae’r achos yn parhau.