Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod timau arbenigol yn cynnal archwiliadau mewn dau dŷ yng Nghaerdydd i ddiflaniad dynes bron i naw mis yn ôl.

Nid yw Lorraine Ridout, 57 oed, wedi’i gweld ers tua 7yh ar Ionawr 31 pan oedd yn gadael ei chartref yng Ngabalfa i ymweld â ffrind gerllaw.

Bellach, mae arbenigwyr fforensig yn rhan o’r ymchwiliadau mewn tai yng Ngabalfa ac un arall yn Nhrelái.

Yn ôl y Prif Arolygydd Dros Dro, Mark O’Shea, nid oes unrhyw un wedi eu harestio mewn perthynas â’r digwyddiad ac mae ei diflaniad yn parhau yn “anesboniadwy.”

“Rydyn ni wedi bod yn chwilio am lawer o fisoedd am Lorraine ac wedi dilyn sawl llinell ymholiad,” meddai gan apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 drwy ddyfynnu’r cyfeirnod *036372 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111.