Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cytuno ar fargen gwerth miliynau o bunnoedd fel rhan o Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn dweud fod y cytundeb yn darparu pecyn o addewidion gwario sy’n adlewyrchu blaenoriaethau polisi Plaid Cymru, sy’n dod i gyfanswm o £119m.
Bydd y Gyllideb ddrafft hefyd yn adlewyrchu meysydd polisi ar y cyd lle mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhannu’r un syniadau. Cafodd cytundeb y Gyllideb ei drafod drwy’r Pwyllgor Cyswllt ar Gyllid a sefydlwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Daw’r cyhoeddiad wedi i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas adael Plaid Cymru gan ddweud ei fod yn credu y dylai Llafur a Phlaid Cymru gydweithio mwy gyda’i gilydd er budd Cymru.
Beth sydd yn y Gyllideb?
Mae’r Gyllideb yn cynnwys £30m ychwanegol ar gyfer addysg bellach ac uwch; £25m ar gyfer llywodraeth leol; a £44m o fuddsoddiad pellach yn y gwasanaeth iechyd.
Bydd Cymraeg i Oedolion ac Asiantaeth Iaith Cenedlaethol yn cael £5m arall, a bydd cynnydd o £3m yn y cyllid ar gyfer y celfyddydau.
Yn ogystal â’r addewidion cyllido, cytunwyd hefyd ar amryw o fesurau eraill.
Mae’r rhain yn cynnwys addewid i ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer datblygu cynllun Cymru Gyfan i gynyddu nifer y myfyrwyr meddygol sy’n hanu o Gymru yng Nghymru – gan gynnwys datblygu hyfforddiant meddygol yn y gogledd.
Mae hefyd addewid i ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer cyflymu’r cynllun ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo os bydd rhagor o arian ar gael yn sgil Datganiad yr Hydref Llywodraeth San Steffan.
‘Carreg filltir’
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol,: “Mae sefydlu’r Pwyllgor Cyswllt ar Gyllid wedi bod yn garreg filltir wrth i wleidyddiaeth Cymru ddod i oed ac mae’r trafodaethau adeiladol rydyn ni wedi’u cael â Phlaid Cymru wedi cael eu cynnal yn yr un ysbryd.
“Fel y dywedodd y Prif Weinidog ar ddechrau’r Cynulliad hwn, nid oes gan unrhyw blaid fonopoli dros syniadau da ac rydyn ni wedi gallu cynnwys llawer o gynlluniau gwario Plaid Cymru yn y Gyllideb ddrafft hon.
“Mae cytundeb y Gyllideb yn rhoi dechrau arbennig i’r gwaith o gyflawni llawer o bolisïau a rhaglenni allweddol fel bod pobl Cymru yn gallu dechrau gweld y manteision cyn gynted â phosibl.”
Gwireddu addewidion Plaid Cymru
Cafodd tîm negodi Plaid Cymru ar y pwyllgor ei arwain gan Adam Price AC, llefarydd y blaid dros Fusnes, yr Economi a Chyllid.
Meddai: “Ers dechrau’r Cynulliad hwn, mae Plaid Cymru wedi bod yn gwbl glir y byddem yn defnyddio ein rôl fel yr wrthblaid swyddogol i sicrhau buddion gwirioneddol i bobl Cymru. Yn y fargen gyllidebol hon, rydyn ni wedi cytuno ar y setliad cyllidebol un flwyddyn fwyaf yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol.
“Mae hwn yn becyn gwerth £119 miliwn a fydd yn gwireddu llawer o’r addewidion sydd gan Blaid Cymru yn ei maniffesto, ac a fydd hefyd yn datblygu ar yr addewidion hynny.
“Diolch i rai o’r polisïau sydd wedi’u sicrhau yng nghytundeb Plaid Cymru ar y Gyllideb, bydd amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn lleihau a bydd mwy o feddygon yn gweithio yn y gwasanaeth. Bydd mwy o gymorth yn cael i roi i bobl o’r crud i fyd gwaith, gyda 30 o oriau o ofal plant di-dâl, mwy o fuddsoddiad mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch, a mwy o brentisiaethau o safon yn cael eu cynnig. Mae Plaid Cymru hefyd wedi mynd â’r maen i’r wal a gwneud yn siŵr bod buddsoddiad pwysig yn cael ei wneud mewn seilwaith i wella ffyrdd, rheilffyrdd a llwybrau beiciau.
“Byddwn ni hefyd yn gweld mwy o fuddsoddiad yn y celfyddydau, ac mewn diwylliant a’r Gymraeg ac mae hyn yn newyddion da i bob un ohonon ni sydd am weld y genedl hon yn ffynnu. Yn ogystal â hyn i gyd, bydd y cyllid ychwanegol mae Plaid Cymru wedi’i sicrhau ar gyfer llywodraeth leol yn golygu na fydd cynghorau Cymru yn gweld toriadau nominal yn eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
“Rydyn ni’n falch o fod wedi cyflwyno cyllideb y bydd pobl ym mhob cwr o Gymru yn elwa arni; mae Plaid Cymru yn cyflawni fel gwrthblaid effeithiol.”
‘Methu cyflawni’
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: “Does fawr o reswm i gredu y bydd y Gyllideb hon yn wahanol i’r rhai a ddaeth o’i flaen – ac mae pob un ohonynt wedi methu cyflawni’r lefelau angenrheidiol o addysg, ffyniant ac iechyd i gymunedau ledled Cymru.
“Nid yw’n syndod bod Plaid Cymru unwaith eto wedi dewis anwybyddu eu cyfrifoldebau fel plaid yn yr wrthblaid drwy geisio blanced gysur Lafur ychydig ddyddiau ar ôl ymddiswyddiad un o’u haelodau sydd wedi gwasanaethu hiraf.
“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i fod yn wrthwynebiad go iawn i Lywodraeth Cymru.”