Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas Llun: O wefan Dafydd Elis-Thomas
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud wrth golwg360 nad oedd neb, ac eithrio rheolwr ei swyddfa ym Mhorthmadog, yn gwybod am ei benderfyniad i adael Plaid Cymru cyn yr wythnos ddiwethaf.
Er gwaethaf galwadau arno i ymddiswyddo er mwyn cynnal isetholiad o’r newydd yn Nwyfor Meirionnydd, dywedodd Dafydd Elis-Thomas nad oes “rheswm cyfansoddiadol i gynnal isetholiad o gwbl hyd y gwn i.”
Ac mae wedi cadarnhau na fydd trefn waith ei swyddfa yn newid yn sgil ei benderfyniad i adael y blaid a sefyll fel Aelod Annibynnol dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn y Cynulliad.
Mae’n cyflogi dau swyddog, un ym Mhorthmadog ac un yng Nghaerdydd, a dywedodd wrth golwg360 mai “mater iddyn nhw a fyddan nhw’n dymuno parhau i weithio imi.”
Cyfarfod y llynedd – sail ei benderfyniad
Fe gyhoeddodd Dafydd Elis-Thomas ei benderfyniad i adael Plaid Cymru mewn cyfarfod etholaeth ym Mhorthmadog nos Wener, 14 Hydref.
Dywedodd fod y mater wedi pwyso arno byth ers i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru alw cyfarfod ddiwedd Gorffennaf 2015 i ystyried a ddylai barhau’n ymgeisydd y blaid ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad 2016.
Fe enillodd Dafydd Elis-Thomas y bleidlais i barhau’n ymgeisydd bryd hynny, ond ar yr amod ei fod yn cyfaddawdu i ofynion y blaid.
“Dyna pryd y daeth hi’n amlwg i fi bod yna wrthwynebiad sylweddol i beth oedd gen i i’w ddweud,” meddai.
Plaid Cymru a Llafur – ‘cymaint yn gyffredin’
Wrth ymgyrchu ar gyfer cael ei ailethol yn Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai eleni, fe ddywedodd fod ganddo ar y pryd “gred wahanol am beth ddylai rôl pleidiau fod mewn Cymru ddatganoledig.
“Dw i’n credu dylai pleidiau gydweithio efo’i gilydd er mwyn cryfhau cyfansoddiad Cymru, cryfhau Cynulliad o ran pwerau a nifer o aelodau a dyma dw i’n meddwl dylai ddigwydd yn hytrach na bod Plaid Cymru, sydd â chymaint yn gyffredin yn eu maniffesto â’r Blaid Lafur (fel Llafur Cymru), yn cynnal gwrthblaid. Dw i ddim yn deall y rhesymeg,” meddai.
Beth nesaf?
Er ei fod wedi dweud pedair blynedd yn ôl ei fod wedi ystyried ymuno â’r Blaid Lafur ar ôl wynebu Panel Disgyblu arall gan Blaid Cymru yn 2012, dywedodd nad yw’n llygadu’r un rôl ar hyn o bryd o fewn Llywodraeth Lafur Cymru.
“Fydd y Prif Weinidog ddim yn newid ei gabinet rhwng rŵan a’r haf faswn i ddim yn meddwl ar y pen cyntaf,” meddai.
Ac ar drothwy ei ben-blwydd yn 70 oed yfory, dywedodd mai ei gynlluniau nesaf fel Aelod Cynulliad yw parhau i weithio dros ei etholaeth a materion o bwys i’r ardal ym maes ynni, dwyieithrwydd, trafnidiaeth a mwy.