Awyren Flybe Llun: Flybe
Mae cwmni Flybe wedi penderfynu ymestyn y gwasanaeth awyr rhwng Maes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Dinas Llundain.
Yn wreiddiol, cynnig gwasanaeth dros dro tra bod twnnel rheilffordd Hafren, sy’n cysylltu Cymru a Lloegr, wedi cau am chwe wythnos oedd y bwriad.
Ond yn dilyn ymateb positif gan deithwyr – gyda 95% yn dweud y byddent yn parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ôl ail agor twnnel Hafren – mae Flybe wedi penderfynu parhau a’r daith tra bod y galw’n parhau.
Bydd awyren yn teithio ddwywaith y dydd yn ystod yr wythnos ac unwaith y dydd ar benwythnosau, gyda’r daith yn cymryd tuag awr.
‘Anghenion lleol’
Dywedodd Debra Barber, pennaeth Maes Awyr Caerdydd: “Mae wedi bod yn wych gweld faint mae’r gwasanaeth hwn wedi cael ei ddefnyddio gan y gymuned fusnes yng Nghymru, yn arbennig gan mai dim ond ychydig wythnosau yn ôl y cafodd ei lansio.”
Dywedodd prif swyddog gweithredol Flybe, Saad Hammad: “Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall maes awyr rhanbarthol weithio gyda Flybe i fynd i’r afael ag anghenion lleol mewn modd ystyrlon. Mae Flybe wedi gwneud buddsoddiad sylweddol yng Nghymru dros y 18 mis diwethaf ac mae’n braf gweld y cyhoedd yng Nghymru yn ymateb mor gadarnhaol. ”
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Seilwaith: “Mae poblogrwydd y llwybr hwn a’r cyhoeddiad heddiw i ymestyn y gwasanaeth hefyd yn dyst i arweinyddiaeth a grym masnachol Maes Awyr Caerdydd ac yn arwydd arall o ffydd yn economi Cymru.”