Dafydd Elis-Thomas Llun: Twitter
Mae cyn Aelod Seneddol a Chynulliad Plaid Cymru, Cynog Dafis, wedi dweud fod penderfyniad Dafydd Elis Thomas ddydd Gwener i adael Plaid Cymru a sefyll fel Aelod Annibynnol yn y Cynulliad yn “deimlad o ollyngdod” iddo.
“Mae e wedi bod yn dramgwydd ac yn niwsans, y gair fydden i’n defnyddio, i’r blaid ers tro mawr yn gwneud datganiadau cyhoeddus ar adegau pwysig ac allweddol sydd wedi anelu at greu trafferthion i’r blaid,” meddai Cynog Dafis wrth golwg360.
“Mae’n mynd i wneud bywyd yn symlach i’r blaid,” meddai wedyn.
‘Cwestiynau i’w hateb…’
Er hyn, mae ganddo gwestiynau i’w hateb, meddai Cynog Dafis:
“Rhaid gofyn y cwestiwn, pa bryd y cododd y syniad hwn yn ei ben am hyn, oedd hyn cyn yr etholiad, ac ers pryd y mae wedi bod yn trafod â Llafur?
“Mae’n siŵr ei fod wedi bod yn trafod gyda Llafur, a fydden i’n disgwyl dros y dyddiau neu’r wythnosau nesaf yma y byddai e’n cael rhyw fath o rôl [yn y Cabinet],” meddai wedyn.
Pwysleisiodd Cynog Dafis fod colli un Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn y Cynulliad yn gwneud sefyllfa’r blaid yn wannach wrth fargeinio, a dywedodd y dylai isetholiad gael ei chynnal yn Nwyfor Meirionnydd er nad yw’n rhagweld y byddai Dafydd Elis-Thomas yn camu i lawr.
Deiseb ar-lein
Mae mwy na 550 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein sy’n galw ar Dafydd Elis-Thomas i ymddiswyddo er mwyn cynnal isetholiad yn Nwyfor Meirionnydd.
Ac ar raglen y Post Cyntaf y bore yma, esboniodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fod ei benderfyniad i adael Plaid Cymru yn mynd i roi mwy o ryddid iddo ganolbwyntio ar faterion o’i ddewis, megis ynni a dwyieithrwydd “heb orfod edrych dros fy ysgwydd.”
Wrth gael ei holi a fyddai’n derbyn swydd yng Nghabinet Llywodraeth Cymru dywedodd nad oedd yn rhagweld y byddai unrhyw swyddi ar gynnig ac mai “mater i’r Prif Weinidog yw hynny.”
Bellach, mae dau Aelod Annibynnol yn y Cynulliad, sef yntau a Nathan Gill wedi iddo adael UKIP yn ddiweddar.