Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud nad oes gorfodaeth arno i ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad ar ôl gadael Plaid Cymru.

Cyhoeddodd ddydd Gwener ei fod yn parhau fel Aelod Cynulliad annibynnol.

Ond fe ddywedodd wrth raglen ‘Sunday Supplement’ ar Radio Wales fod ei etholwyr yn “siomedig ac yn bryderus” am ei benderfyniad.

Wrth egluro’i benderfyniad, dywedodd ei fod e wedi gadael Plaid Cymru am nad ydyn nhw’n cymryd y nod o ddod yn blaid lywodraeth o ddifri.

Yn ôl Plaid Cymru, mae Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd wedi “camarwain” ei etholwyr ac fe ddylai alw is-etholiad.

Ond yn ôl yr Arglwydd Elis-Thomas, mae ganddo fandad fel Aelod Cynulliad o hyd.

“Fy mandad ymddangosodd yn fy llenyddiaeth ar gyfer yr etholiad,” meddai wrth Radio Wales.

“Diben y siarad am is-etholiad yw camarwain yr etholwyr. Does dim gorfodaeth gyfansoddiadol arna i.

“Dw i’n aelod annibynnol a gafodd ei ethol gynt gyda Phlaid Cymru a dyna fydd fy safbwynt drwy gydol y Cynulliad hwn.”