Mae Diwrnod Afalau yn cael ei gynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Sain Ffraid heddiw.
Mae’r digwyddiad yn dathlu afalau a thymor yr hydref, a’r gweithgareddau’n cynnwys arddangosfeydd cadw gwenyn a thurnio coed.
Mae’r digwyddiad yn cynnig y cyfle i’r cyhoedd fynd â’u hafalau eu hunain i’r digwyddiad er mwyn cael eu troi’n sudd ffres.
Mae perllan treftadaeth Awdurdod y Parc yn Sain Ffraid, nad yw ar agor fel arfer i’r cyhoedd, yn gartref i sawl gwahanol fath o goeden afal, yn cynnwys Adams Pearmain, Blenheim Orange, Newton Wonder, Quince a Gascoigne’s Scarlet.
Fe fydd gwahanol fathau o seidr hefyd ar gael.
Dywedodd Parcmon Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Haydn Garlick: “Bydd pobl yn gallu dod â’u hafalau eu hunain er mwyn iddyn nhw gael eu troi’n sudd ffres hyfryd ‒ ond bydd yn rhaid iddyn nhw ddod â photeli neu gynwysyddion gyda nhw er mwyn ei gludo oddi yno.
“Bydd cyfle prin yn ogystal i gael taith dywys o berllan treftadaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sy’n gartref i rai amrywiadau o goed afalau Fictoraidd traddodiadol yn ogystal â phren gellyg a merwydden.”
Mae Diwrnod Afalau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y berllan y tu ôl i Dŷ’r Pwmp yn Sain Ffraid o 11-3pm, a mynediad am ddim i bawb.
Yr Ardd Fotaneg
Mae’r diwrnod hefyd yn cael ei ddathlu gan yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin.
Fe fydd modd gweld dros 500 o wahanol fathau o afalau, a bydd arddangosfa gwenyn yn rhan o’r digwyddiad hwn hefyd.
Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal tan 5 o’r gloch.