Mae’n ddiwrnod Shwmae Su’mae heddiw gyda thua 100 o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ledled y wlad i ddathlu Cymreictod a’r iaith Gymraeg.
Dyma’r pedwerydd tro i’r ŵyl gael ei chynnal a’r tro cyntaf iddi fod ar benwythnos, gyda llawer o ysgolion a gweithleoedd wedi bod yn dathlu ddoe.
Bu plant mewn rhai ysgolion yn cael eu hannog i wisgo coch, gwyn a gwyrdd, yn bwyta cawl ac yn cymryd rhan mewn cwis a chreu posteri i nodi Diwrnod Shwmae Su’mae 2016.
Roedd plant ysgolion Cymraeg yn ogystal â rhai mewn ysgolion Saesneg yn ymuno â gweithgareddau’r ŵyl.
Bu dathliadau i’r oedolion hefyd yng Nghaerdydd neithiwr, gyda ‘Noswyl Shwmae’ yn yr Hen Lyfrgell, gan gynnwys DJ a bar hwyr.
Ac roedd eraill ledled y wlad yn dathlu gyda boreau coffi, arwyddion, sesiynau dysgu Cymraeg, canu a fideos.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fe wnaeth staff ysbytai’r bwrdd fideo i ddangos pam bod y Gymraeg yn bwysig iddyn nhw.
Ac mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cyhoeddi rhai ymadroddion gallai fod yn ddefnyddiol wrth ddefnyddio’r Gymraeg tra’n gwylio gêm bêl droed.
Mae fideo wedi cael ei chyhoeddi â blas rhyngwladol iddi er mwyn dathlu’r diwrnod hefyd.
Digwyddiadau heddiw
Bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal yn Popdy, sef canolfan newydd i hybu’r Gymraeg ym Mangor.
Bydd ‘Dysgŵyl’ yn Llandrindod heddiw, sef gŵyl ar gyfer dysgwyr Cymraeg, sydd wedi’i threfnu gan Fenter Iaith Brycheiniog.
Yng Nghaerfyrddin , bydd cwis arbennig Shwmae Su’mae yng Nghlwb Pêl Droed y dref am 8 o’r gloch heno
Mae disgwyl hefyd noson cawl a chân yn Nolgellau, rhyddhau balwnau â negeseuon Shwmae ym Mhafiliwn Porthcawl, gwobrau i ddysgwyr Cymraeg yn Sir Benfro ymhlith digwyddiadau eraill.
Dathlu “mewn ffordd naturiol”
Cyfarwyddwr cwmni PR Mela, Ashok Ahir, yw ‘pencampwr’ Diwrnod Shwmae Su’mae eleni, sy’n dweud bod yr achlysur yn gyfle i ddathlu’r iaith “mewn ffordd naturiol.”
“Mae ymgyrch Shwmae Su’mae yn ffordd wych o ddylanwadu ac annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg pob dydd, trwy ddangos pa mor syml all defnyddio’r iaith fod,” meddai.
“Mae’n gyfle i’n hatgoffa i ddechrau sgwrs gyda chyfarch syml fel Shwmae er mwyn agor y drws am ymateb Cymraeg. Gobeithio y gall hyn ysbrydoli eraill i roi cynnig arni, gallai fod yr unig anogaeth sydd ei angen arnynt.”