Ched Evans

Mae’r pêl-droediwr Ched Evans wedi ei gael yn ddieuog o dreisio merch yn ei harddegau.

Fe wnaeth ymosodwr Chesterfield a Cymru, sydd wedi bod yn ymladd ers pum mlynedd i glirio ei enw, grio a chofleidio ei bartner Natasha Massey yn dilyn y dyfarniad yn Llys y Goron Caerdydd.

Roedd Ched Evans, 27, yn cyfaddef iddo gael rhyw gyda’r ferch mewn gwesty Premier lnn ger y Rhyl yn ystod oriau mân y bore ar 30 Mai, 2011 ond roedd wedi mynnu bod y weithred wedi bod yn gydsyniol.

Dywedodd Ched Evans ei fod wedi cerddedd i mewn i’r ystafell pan welodd ei gyd bêl-droediwr Clayton McDonald yn cael rhyw gyda’r ferch. Dywedodd hefyd bod Clayton McDonald wedi gofyn i’r ferch os allai o ymuno gyda nhw a’i bod hi wedi cytuno.

Ychwanegodd yn ystod yr achos llys ei fod wedi gadael y gwesty trwy allanfa dân ar ôl sylweddoli ei fod yn twyllo ei gariad.

Dywedodd ei fargyfreithiwr bod Ched Evans wedi ateb pob cwestiwn yn ystod ei gyfweliadau gyda’r heddlu ac na fyddai ditectifs erioed wedi gwybod am y sesiwn rhyw oni bai am onestrwydd y chwaraewr pêl-droed.

Roedd y rheithgor wedi cael gwybod fod Clayton McDonald wedi ei gael yn ddieuog o dreisio’r ferch yn Llys y Goron Caernarfon yn 2012. Cafwyd Ched Evans yn euog o’r cyhuddiad yn yr un achos ond cafodd ei euogfarn ei ddileu yn ddiweddarach gan y Llys Apêl, wedi iddo dreulio dwy flynedd a hanner dan glo.

Dechreuodd ei ail achos yn Llys y Goron Caerdydd ar 4 Hydref.

Bu clapio yn yr oriel gyhoeddus wedi i’r rheithgor dychwelodd rheithfarn ddieuog ar ôl tair awr o drafod. Dywedodd y barnwr bod Ched Evans yn rhydd i adael y llys.