Ken Skates
Mae ystadegau’n dangos bod gan Gymru fwy o fusnesau fesul pen na’r Alban yn ôl Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, bod ffigurau diweddaraf Llywodraeth Prydain yn datgelu bod oddeutu 872 o fusnesau sector preifat am bob 10,000 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd
Golyga hyn fod gan Gymru fwy o fusnesau fesul person na’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Ychwanegodd Ken Skates bod Llywodraeth Cymru’n awyddus i gynnig pob cymorth i fusnesau a’u bod wedi ymrwymo i gydweithio â busnesau bach a chanolig a chefnogi entrepreneuriaid sy’n awyddus i sefydlu ac ehangu busnesau yng Nghymru
Dywedodd Ken Skates: “Mae’r ffigurau diweddaraf hyn ynghylch nifer y busnesau yn galonogol iawn. Maent yn dangos bod nifer y busnesau yng Nghymru’n parhau i gynyddu – ac er bod cryn le i wella cyn y gallwn efelychu De-ddwyrain Lloegr rydym yn sicr yn symud i’r cyfeiriad cywir.
“Tystia’r ffigurau hyn i’r ffaith bod rhaglenni fel ein gwasanaeth Busnes Cymru yn gwneud gwahaniaeth. Maent yn darparu’r gefnogaeth, y cyngor a’r wybodaeth cynhwysfawr sydd ei angen ar entrepreneuriaid newydd a busnesau bach a chanolig i oroesi a ffynnu.”