Mae Amlosgfa Bae Colwyn bellach yn cynnig gwasanaeth i ganiatáu i bobol nad ydyn nhw’n gallu teithio i’r amlosgfa i wylio gwasanaethau angladdau ar-lein.

Mae technoleg ddigidol bellach yn ei lle i ddarlledu gwasanaethau, yn ôl y gofyn, ar y rhyngrwyd i unrhyw le yn y byd. Dydi’r gwasanaeth ddim ar gael i rywun-rywun ei wylio, ond mae’n bosib cael mynediad iddo trwy wefan ddiogel lle mae angen teipio cyfrinair i mewn cyn cael gweld y lluniau am hyd at wythnos wedi’r gwasanaeth.

Mae camera wedi ei osod allan o’r golwg yng nghefn y prif gapel yn yr Amlosgfa, fel ei fod yn dangos y gwasanaeth, yr arch a’r gynulleidfa. Y bwriad yw bod yr olygfa’r un fath â phe baech yn eistedd yn y gwasanaeth.

Mae Amlosgfa Bae Colwyn hefyd yn cynnwys system sain newydd o ansawdd uchel sy’n cynnwys cyfleuster recordio sy’n cynnig recordiadau CD sain a DVD o’r gwasanaeth, y gellir eu prynu.

“Erbyn hyn gall teuluoedd a ffrindiau fod ar wasgar ar draws y byd ac nid yw taith i’r amlosgfa yn opsiwn o gwbwl,” meddai’r Cynghorydd Dave Cowans, yr aelod ar Gyngor Conwy sy’n gyfrifol am Briffyrdd, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

“Mi fydd y cyfleuster meddylgar ac arloesol hwn yn gwneud gwasanaethau angladd yn fwy hygyrch, gan roi’r cyfle i fwy o bobol dalu teyrnged a ffarwelio gyda’u hanwyliaid, lle bynnag y maen nhw yn y byd.”