Fe fydd ymchwiliad yn ceisio penderfynu sut y bu i dros 140,000 litr o olew orlifo i afon yng Nghaerfyrddin gan ladd tua 100 o bysgod.
Credir bod y cerosin wedi gollwng o beipen y cwmni puro olew Valero a llygru Nant Pibwr ger Nant-y-caws yr wythnos diwethaf.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig Lesley Griffiths y bydd ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’r Swyddog Iechyd a Diogelwch yn craffu ar y digwyddiad.
Bydd gwaith atgyweirio yn cael ei gynnal dros y penwythnos hwn ac mae disgwyl i’r A48 fod ynghau i’r ddau gyfeiriad rhwng 7yh nos Wener a 6yb dydd Llun.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu ymateb y Llywodraeth i’r digwyddiad:
“Mae’r gorlifiad olew, sydd nawr wedi arwain at gau’r A48 i’r ddau gyfeiriad, yn ergyd drom i bobol gorllewin Cymru gan rwystro llif y rhan fwyaf o’i ddwy wythien economaidd bwysicaf,” meddai llefarydd.