Y llun o wyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2017, (Llun o gyfrif Twitter Huw Irranca Davies)
Mae ffrae wedi codi ynglŷn â llun sydd wedi’i gylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf o Aelod Cynulliad UKIP a Mistar Urdd.

Tynnwyd y llun yn ystod gŵyl gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2017 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn, ac mae’n cynnwys Huw Irranca-Davies, AC Llafur; Dai Lloyd, AC Plaid Cymru; y Prif Weinidog Carwyn Jones ynghyd â Caroline Jones, AC UKIP.

Hefyd yn y llun mae Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd.

Yn ôl yr ymgyrchydd iaith Simon Brooks, mae cynnwys aelod UKIP mewn llun o’r fath yn “amhriodol”.

Dywedodd wrth golwg360: “Mae UKIP yn blaid sy’n gysylltiedig â chasineb at fewnfudwyr, a dydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n briodol bod plaid o’r fath yn cael ei chynrychioli mewn rhywbeth mor bwysig â seremoni gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd.”

Cyfeiriodd at Urdd Gobaith Cymru fel “mudiad sy’n ceisio cael plant i barchu plant eraill a hyrwyddo neges ewyllys da’r Urdd… dw i’n meddwl ei bod hi’n amhriodol felly.”

“Dim angen eu gwahodd”

Dywedodd Simon Brooks: “Er eu bod [UKIP] wedi’u hethol i’r Cynulliad, does dim rhaid eu gwahodd i ddigwyddiadau Cymraeg a Chymreig.

“Mae’r saith unigolyn [ACau UKIP] wedi cael eu hethol i’r Cynulliad, ond dydy hi ddim yn dilyn bod ganddyn nhw rwydd-hynt i fod yn rhan o bob digwyddiad cymdeithasol ym mywyd y gymdeithas Gymreig.

“Mae unrhyw sylw y maen nhw’n ei gael y tu hwnt [i’r Cynulliad] yn rhywbeth rydan ni yn y gymdeithas yn penderfynu ei roi iddyn nhw,” meddai Simon Brooks.

“Os maen nhw’n [Yr Urdd] yn teimlo bod yr unigolyn yn cynrychioli safbwyntiau sy’n wrthun i’r Urdd mi ddylen nhw wrthod.”

Aeth ymlaen i esbonio fod y sefyllfa hon yn codi o’r newydd am fod grŵp adain dde eithafol bellach yn rhan o’r Cynulliad.

“Mae pawb yn delio â nhw fel eu bod yr un fath â gwleidyddion etholedig eraill, ond dydyn nhw ddim – ni’n gwybod hynny oherwydd y ffordd maen nhw’n dweud pethau sydd yn bygwth buddiannau dinasyddion eraill yn y gymdeithas, pobol o Ewrop er enghraifft.”

Ymateb yr Urdd

Mewn ymateb i’r ffrae, dywedodd llefarydd ar ran Urdd Gobaith Cymru:

“Mae pob Aelod Cynulliad a Seneddol yn cael eu gwahodd i’n digwyddiadau ac rydym yn falch iawn fod dros 4,000 o bobol leol wedi mynychu Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elai ar y penwythnos.”

Mae’r ffrae hefyd yn dilyn llun arall wnaeth gorddi’r dyfroedd yn ddiweddar o aelodau Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad ar set Pobol y Cwm, ac yn cynnwys Neil Hamilton UKIP sy’n aelod o’r pwyllgor.