Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Llun: Gwefan y Ceidwadwyr
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud nad yw’r Undeb Ewropeaidd wedi “dysgu dim o ymgyrch na chanlyniad y refferendwm.”

Roedd Andrew RT Davies yn ymateb i sylwadau’r Comisiynydd sy’n gyfrifol am bolisïau rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd (UE) fod Brexit yn “anffodus” i Gymru ac y dylai’r UE fod wedi “cyfathrebu’n well” eu defnydd o’r cyllid yng Nghymru.

Mewn cyfweliad a BBC Cymru, cyfeiriodd Cornia Cretu at ranbarthau fel Gorllewin a Chymoedd Cymru sydd wedi derbyn bron £4 biliwn o gyllid oddi wrth yr UE dros yr 14 mlynedd ddiwethaf.

‘Gwersi i’w dysgu’

Er hyn, dywedodd ei bod yn “parchu” y penderfyniad i adael, gan ddweud y dylai’r Undeb Ewropeaidd fod wedi cyfathrebu’n well o ran yr hyn oedden nhw’n ei wneud gyda’r arian a bod “gwersi i’w dysgu”.

Ond, yn ôl Andrew RT Davies: “Nid cysylltiadau cyhoeddus yw’r broblem, ond y canlyniadau – ac mae cymunedau tlotaf Cymru wedi cael eu gadael lawr dro ar ôl tro dros nifer o flynyddoedd; nid oherwydd methiant i gyfathrebu, ond oherwydd methiant i wneud newidiadau arwyddocaol i fywydau pobol.”

Ac wrth drafod y farchnad sengl, dywedodd y Comisiynydd na fyddai’r Deyrnas Unedig yn gallu aros yn rhan ohoni oni bai ei bod yn cydymffurfio â gofynion, gan gynnwys symudiad rhydd pobol.