Llun: PA
Gallai derbynyddion meddygfeydd atal pobl rhag dod i weld eu meddyg teulu drwy ofyn am eu symptomau, yn ôl ymchwil newydd.

Canfu’r astudiaeth o 2,000 o bobl ar draws gwledydd Prydain bod cleifion yn gyndyn i drafod eu symptomau gyda derbynyddion cyn trefnu apwyntiad gyda’u meddyg teulu.

Mae’n arfer cyffredin i dderbynyddion ofyn am symptomau pan fydd pobl yn ceisio trefnu apwyntiad. Mae arbenigwyr yn dadlau bod hyn yn helpu adnabod yr achosion mwyaf argyfyngus ond mae beirniaid yn dweud nad yw derbynyddion, yn aml, wedi cael hyfforddiant meddygol.

Yn yr astudiaeth ddiweddaraf gan Cancer Research UK datgelwyd nad yw 37% o ddynion a 43% o ferched yn hoffi siarad â derbynnydd meddyg teulu am eu symptomau.

Mae rhwystrau eraill i weld meddyg teulu yn cynnwys ei chael hi’n anodd cael apwyntiad gyda meddyg penodol (42%), neu i gael apwyntiad ar amser cyfleus (42%).

Mae traean o bobl (35%) yn gohirio ymweld â’u meddyg teulu am nad ydyn nhw eisiau cael eu gweld fel rhywun sy’n gwneud ffws.

Ar y cyfan, roedd menywod yn fwy tebygol o atal eu hymweliad at y doctor oherwydd y ffactorau hyn na dynion.

‘Oedi’ 

Dywedodd Dr Richard Roope, arbenigwr meddyg teulu Cancer Research UK: “Mae gwneud diagnosis cynnar o ganser yn rhywbeth mae’n rhaid i ni gymryd o ddifrif felly mae’n rhaid goresgyn unrhyw beth allai atal pobl rhag gweld eu meddyg teulu.

“Mae angen i ni sicrhau bod cleifion yn gallu cael apwyntiadau ar amser cyfleus, yn gallu trefnu apwyntiad i weld meddyg penodol ac i wneud yn siŵr nad ydynt yn oedi cyn dod i’w gweld yn y lle cyntaf.

“Gall hyn olygu mwy o bwyslais ar hyfforddiant i staff y ddesg flaen gan gynnwys cael derbynwyr i fod yn fwy sensitif gyda chleifion.”