(Llun: Cyngor Sir Gar)
Mae disgwyl oedi ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin y penwythnos nesaf er mwyn trwsio pibell danwydd o dan y ffordd.
Mae angen gwneud gwaith atgyweirio ar frys ar ôl i olew cerosin ollwng i’r afon ger Nant-y-caws.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad fod y gwaith i ddatrys y sefyllfa’n debygol o fod yn fwy na’r disgwyl ar y dechrau.
Dywedodd fod hyd at 140,000 litr o olew wedi gollwng, a bod traean yn dal ar y ffordd.
Mae rhan o’r ffordd ynghau i’r dwyrain ar hyn o bryd.
Mae Plaid Cymru wedi dweud y bydd y gwaith yn cael effaith negyddol ar economi’r ardal leol.
Daeth cadarnhad y bydd contractwyr Valero yn parhau i weithio dros y diwrnodau nesaf i glirio’r olew o Nant Pibwr yn Nant y Caws.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau nad yw’r olew wedi gadael effaith yn is i lawr yn Afon Tywi ar hyn o bryd, er bod effaith fawr yn y dalgylch lleol.
“Wrth i’r gwaith barhau i adfer yr olew, byddwn ni’n parhau i fonitro’r safle a chanolbwyntio ar ddod o hyd i sut y digwyddodd hyn ac yn ymgynghori ar sut i adfer y safle,” meddai Aneurin Cox, Rheolwr Gweithdrefniadau Adnoddau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y de.
“Mae’r digwyddiad hefyd wedi gadael effaith ar y gymuned leol,” meddai gan ddweud y byddan nhw’n parhau i drafod a phreswylwyr, ffermwyr a physgotwyr lleol.
“Os oes rhywun yn gweld pysgod marw neu unrhyw fywyd gwyllt mewn trallod, neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad dylen nhw ffonio 0300 065 3000,” meddai.
Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw effaith ar gyflenwad dwr yfed.