Ty'r Arglwyddi
Fe fydd mesur Cymru yn cael ailddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw – lai nag wythnos ar ôl i un o bwyllgorau’r Cynulliad ei ddisgrifio fel mesur sy’n rhy gymhleth, yn fiwrocrataidd ac un na fydd yn cyflwyno setliad parhaol.
Dyma’r mesur sy’n argymell pwerau newydd i’r Cynulliad dros ynni a thrafnidiaeth ymysg pethau eraill. Ond nid yw Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o’r farn ei fod yn hwb i ddatganoli yng Nghymru.
Er i’r mesur gael ei feirniadu gan wleidyddion fel yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas hefyd, mae’r Ceidwadwr Guto Bebb wedi ei amddiffyn gan ddweud ei fod yn cynnig gwell eglurdeb o lawer o’r hawliau fydd gan y Cynulliad.
Dywedodd ar raglen BBC Sunday Politics bod y mesur yn “mynd uwchlaw” refferendwm 2011.
Un peth yr hoffai aelodau Plaid Cymru ei weld yn y mesur yw’r hawl i greu system gyfreithiol ar wahân i Gymru. Fe gefnogodd yr AC Llafur Mick Antoniw y syniad yng nghynhadledd Cymru’r Gyfraith y penwythnos hwn, ond fe ddywedodd yr AS Liz Saville Roberts fod hynny’n mynd yn groes i weddill ei gyd-aelodau a’i fod yn dangos “rhwyg” o fewn y blaid.
“O ganlyniad i ddiogi’r Blaid Lafur, mae’r Torïaid wedi israddio ein cenedl i statws dinas, gyda San Steffan yn rhoi pwerau cyfiawnder i Fanceinion ond yn gwrthod eu trosglwyddo i Gymru,” meddai Liz Saville Roberts.
“O glywed sylwadau Mick Antoniw, mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at y Blaid Lafur yn cyflwyno newid i Fesur Cymru pan ddaw o flaen Tŷ’r Arglwyddi.”