Richard Pentreath Llun: Heddlu'r Gogledd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth am ddyn maen nhw’n awyddus i’w holi.
Mae Richard Pentreath, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Hilary Clifford Thomas, yn cael ei amau o gynnau tân gyda’r bwriad o beryglu bywyd yn dilyn digwyddiad mewn tŷ ym Mhrestatyn yn oriau mân fore dydd Iau, 6 Hydref.
Roedd Pentreath, 63 oed, hefyd wedi methu ymddangos gerbron Llys y Goron Woolwich yn Llundain ar ddydd Llun, 3 Hydref am droseddau hanesyddol o dreisio.
Cafwyd Pentreath yn euog yn ei absenoldeb ac mae gwarant wedi cael ei gyhoeddi i’w arestio.
Mae’n debyg ei fod wedi gadael Prestatyn ar y trên yn fuan wedi’r tân ar 6 Hydref a chafodd ei weld ddiwethaf yng ngorsaf drenau Crewe tua 5.30yb ar yr un diwrnod.
Credir ei fod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac mae ganddo gysylltiadau a Llundain, Caerloyw a Manceinion.
Mae’n groenwyn, tua 6’ o daldra ac o faint tenau. Mae ganddo wallt tywyll, barf sydd wedi britho ac mae hefyd yn gwisgo sbectol. Y tro diwethaf cafodd ei weld roedd yn gwisgo het lliw tywyll, siaced frown a jîns neu drowsus tywyll.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Ian Verburg o Heddlu’r Gogledd: “Rydym mewn cysylltiad â heddluoedd eraill, gan gynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydain ac yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi ei weld neu sy’n gwybod lle mae o, i gysylltu â’r heddlu ar unwaith.”
Maen nhw hefyd yn apelio ar Pentreath i fynd at orsaf yr heddlu o’i wirfodd os yw’n gweld yr apêl.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod RC16152078.