Henighans Top Shop (Llun: Wicipedia)
Mae siop tjips o Bowys ar restr deg siop pysgod a sglodion gorau gwledydd Prydain.
Mae Henighans, ar Heol Maengwyn, Machynlleth, wedi’u gosod ar y rhestr fer y National Fish & Chip Awards i ddewis y siop orau yng ngwledydd Prydain – a dyma’r unig siop o Gymru ar y rhestr.
Mae’n ymladd am deitl Siop Tjips Orau Gwledydd Prydain ochr yn ochr â siopau yn Sir Efrog, Dyfnaint, Essex, Moray yn yr Alban, a County Tyrone yn Iwerddon.
Dyma’r deg…
– Hennighan’s Top Shop, Machynlleth, Powys (Cymru)
– Fochabers Fish Bar, Fochabers, Moray (Yr Alban)
– The Dolphin Takeaway, Dungannon, County Tyrone (Gogledd Iwerddon)
– Miller’s Fish and Chips, Haxby, Gogledd Swydd Efrog (Lloegr)
– Hodgson’s Chippy, Prospect Street, Lancaster, Swydd Gaerhirfryn (Lloegr)
– Oldswinford Fish & Chips, Dudley, Stourbridge, West Midlands (Lloegr)
– Burton Road Chippy, Lincoln, Swydd Lincoln (Lloegr)
– Henley’s of Wivenhoe, Wivenhoe, Essex (Lloegr)
– Godfrey’s Fish and Chips, Harpenden, Swydd Hertford (Lloegr)
– Kingfisher Fish and Chips, Plympton, Dyfnaint (Lloegr)