Llun: Gwasanaeth Tân Cymru
Mae adroddiadau am dân ar y bont reilffordd rhwng Morfa Mawddach ac Y Bermo y bore yma.

Golyga hyn fod bysiau wedi eu trefnu i gludo teithwyr rhwng Machynlleth/Tywyn a’r Bermo heddiw.

Mae disgwyl i hyn amharu ar weddill y gwasanaethau trên rhwng yr Amwythig a Phwllheli/Aberystwyth am weddill y dydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle tua 6 y bore i ddelio â’r tân, ac nid yw ei achos na maint ei ddifrod wedi’u datgelu eto.