Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn y cafwyd hyd i’w gorff yn Afon Rhymni ger Bargoed.

Roedd Robert Evans, 70 oed, wedi bod ar goll ers dydd Llun, 26 Medi. Cafwyd hyd i’w gorff ar ddydd Sadwrn, 1 Hydref.

Nid yw’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel un amheus ar hyn o bryd.

Dywedodd yr Arolygydd Ian Muirhead bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau Robert Evans, a’u bod yn diolch i’r gymuned leol a oedd wedi helpu yn y chwilio amdano.